Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un llenor yn unig, ond wrth draethu am neilltuolion deg neu ddeuddeg, gan eu cymharu â'i gilydd, yr wyf yn gallu gwneud peth sydd ar hyn o bryd yn bennaf yn fy ngolwg, sef gosod y rhai ieuangaf ohonoch ar dir i farnu pa un o'r ysgrifenwyr Cymraeg a fyddai'n orau iddynt ei ddewis yn gynllun; ac ni chyfeiliornwn yn fawr pe dywedwn mai'r ysgrifennwr gorau ganddynt ydyw'r ysgrifennwr gorau iddynt. Fel rheol, y mae llenor ifanc yn hoffi rhyw awdur neilltuol, am fod hwnnw'n debyg iddo fo'i hun, ac wrth efelychu un tebyg iddo'i hun, nid yw'r efelychwr yn gwneud dim amgen na datblygu'i ddawn ei hun. Gofaler yn unig fod y neb a efelycher yn un sy'n haeddu ei efelychu, sef yw hynny, yn glasur. Canys fe ellir dweud am glasuron pob cenedl yr hyn a ddywed Vinet am glasuron Groeg a Rhufain, nad ydynt hwy, o'u hastudio, ddim yn mygu dawn nac yn lladd neilltuolrwydd neb. Y mae'r neb a efelycho'r awduron gorau yn eu pethau gorau yn rhywbeth amgen na dynwaredwr—disgybl yw hwnnw sydd ar y ffordd i fynd yn feistr.

Gan fod crefydd cenedl yn dylanwadu mwy na dim arall ar ei llenyddiaeth, yr wyf yn gweled yn dda ddosbarthu llenyddiaeth Gymraeg yn ddau gyfnod, sef