Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth bwys a mesur y cysegr, ond y mae hi y llenyddiaeth decaf a welodd Cymru; ac y mae tegwch yn beth mor anhepgor mewn llenyddiaeth ag ydyw ffurf mewn celfyddyd. Y swyn sydd yn y tegwch hwn sydd wedi peri i estroniaid, megis yr Ellmyn, y Ffrancwyr, a'r Saeson, roi cymaint mwy o fri ar ein hen lenyddiaeth nag ar ein llenyddiaeth ddiweddar. Yr unig air sy'n dynodi'n fanwl natur llenyddiaeth y cyfnod hwn ydyw'r gair Ffrangeg naiveté, y gellir ei Gymreigio yn neifder, sef y naturioldeb prydferth hwnnw a berthyn i lenyddiaeth yng ngwrid a charedigrwydd ei hieuenctid.

Er amser y Diwygiad Protestannaidd, gwlad y cyffroadau crefyddol, gwlad yr ymryson ynghylch geiriau, gwlad yr ymgecru diwinyddol a phrydyddol, gwlad y gerdd ddychan a'r llythyrau di-enw, fu "Gwlad Gân" gan amlaf; ac y mae'n hysbys fod y cyffroadau pwysicaf, pa un bynnag ai crefyddol ai gwleidyddol, yn niweidiol i lenyddiaeth. Y maent, a dweud y lleiaf, yn niweidiol iddi ar y pryd; eithr gallant fod yn fuddiol iddi ymhen talm o amser ar ôl eu myned heibio. Fe all y stormydd eu hunain—pob stormydd oddieithr "storm mewn tebot "—ymddangos yn ddiddorol i ddyn pan edrycho arnynt oddi ar fryn, o bell,