Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hyn, sef eu bod yn gyfnodau pur ddiwinyddol, a bod eu diwinyddiaeth yn Buronaidd yn Biwritanaidd iawn, o ddyddiau'r Tuduriaid hyd yn awr; a rhaid addef bod Puroniaeth yn niweidiol i lenoriaeth. Pe buasai yng Nghymru yn y Cyfnod Eglwysyddol Eglwyswyr o'r Ysgol Uchel, fe allesid disgwyl iddynt fod yn fwy barddonol yn eu rhyddiaith, a phe buasai ynddo Eglwyswyr o'r Ysgol Lydan, fe allesid disgwyl iddynt fod yn fwy gwyddonol, ac felly yn ehangach eu syniadau a'u cydymdeimlad. A dweud fy mhrofiad fel llenor, fe fyddai'n well gennyf i o'r ddau weled Cymru'n Gatholig ei chrefydd nag yn Biwritanaidd, am fod Catholigiaeth yn fwy manteisiol i lenoriaeth a chelfyddyd, ac yn llawn mor fanteisiol i wyddoniaeth hefyd; ond fe fyddai'n well gennyf ei gweled yn Brotestannaidd, yn ystyr orau'r gair, na dim; canys y mae Protestaniaeth aruchel, ddiragfarn, tra bo hi'n ymosod â'i llaw aswy, yn adeiladu â'i llaw dde. Fe ddichon fod Protestaniaeth yr Almaen yn rhydd hyd at fod yn benrhydd; ond pe bai Piwritaniaid Cymru yn gymaint o lenorion ag ydynt o ddiwinyddion, gwelent fod y Brotestaniaeth honno hefyd yn adeiladu mwy nag y mae hi'n ei ddistrywio. Sŵn ei cheibiau ac nid sŵn ei thrywelau sy'n cyrraedd hyd at Gymru. Darluniau o furddun-