Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nod—o garneddau'r Almaen, ac nid darluniau o'i phalasau, a ddangosir inni. Hyd yn oed mewn dinas fawr fel hon, y mae mwy o sôn am Hegel nag am Leibnitz, a mwy o ladd ar Fragmente Lessing nag o ganmol ar ei ddramodau. Y mae'n rhaid i bawb sy'n pleidio rhyddid ddygymod â rhywfaint o benrhyddid, a hynny'n fwy am fod llawer peth yr ydys yn ei gyfrif yn benrhyddid heddiw yn myned yn rhyddid cyfreithlon yfory. Pa beth bynnag yw penrhyddid, y mae'n sicr fod Piwritaniaeth yr amser a aeth heibio yn ben-rhwymedd, canys yr oedd hi'n rhy gul i fod yn Biwritaniaeth Gatholig, chwaethach yn Biwritaniaeth Brotestannaidd. Piwritaniaeth Babyddol oedd hi. Os ydym yn ein galw'n hunain yn Brotestaniaid, byddwn yn Brotestannaidd, trwy fynnu rhyddid i farnu ac i lefaru fel y mynnom ein hunain, a thrwy oddef i eraill farnu a llefaru fel y mynnont hwythau. Os bydd i Brotestaniaeth gyson a rhesymegol ladd ein Piwritaniaeth, ni wna hi yn y pen draw ddim niwed i grefydd bur a dihalogedig, ac y mae'n ddiamau y gwna hi les dirfawr i lenoriaeth.

Er bod codiad y Methodistiaid yng Nghymru, ac adfywiad y cyfundebau Ymneilltuol eraill, wedi bod yn fendithiol iawn i'n cenedl, eto rhaid addef