Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod yr Ymneilltuwyr hyn wedi gwneud diwinyddiaeth Biwritanaidd yn gulach ei chynnwys, ac yn fwy dadleuol a beirniadol ei gwedd, nag y bu hi erioed o'r blaen. Nid oes diben ar nifer y llyfrau a'r pamffledi a wnaethant, ond darllen y rhan fwyaf ohonynt sy flinder i'r cnawd am nad oedd eu hawduron ddim yn llenorion. Fe gyhoeddodd y rhai dysgedicaf rai llyfrau buddiol a da ymhob ystyr, yn eiriaduron ac yn esboniadau, eithr nid ydys byth yn cyfrif y cyfryw bethau yn rhan o lenoriaeth cenedl. Llyfrau cyfleus ydynt, ac nid llyfrau clasurol, ac os darllenir mwy arnynt nag ar weithiau ag unoliaeth iddynt, hwy a ddifethant chwaeth y darllenwyr. Mynych y'n hanogir yng Nghymdeithasau'r Methodistiaid i ddarllen llenyddiaeth y Corff, ac y mae'r Wesleaid, y Bedyddwyr, yr Eglwyswyr, ie, a'r Annibynwyr hefyd, yn annog eu haelodau i ddarllen llenyddiaeth y cyfundeb y maent hwy'n perthyn iddo. Ond nid oes gan y Corff fel y cyfryw ddim llenyddiaeth. Nid oes y fath beth â Llenyddiaeth Gyfundebol. Nid oes dim yn haeddu ei alw'n llenyddiaeth os na bydd cenedl a chenedlaethau yn tystiolaethu bod iddynt ran ynddo. Mynych hefyd y'n hanogir mewn cymdeithasau crefyddol i ddarllen llenyddiaeth bur, a dealler nad gwir lenyddiaeth, nad