bechodau, a chariad eu cyfundeb tuag atynt hwythau yn dwyn agos cymaint o elw iddynt â phe buasent wedi pwrcasu ac astudio Gramadeg Rowland a Geiriadur Silvan Evans. Diolch i'r aml gyfundebaeth sy'n gwneud ysgrifenwyr anfedrus yn awduron hysbys, fe all pob rhyw lyfr ddywedyd ar ôl dyfod allan o'r wasg—"Pan yw fy nghenedl yn fy ngwrthod, fy nghyfundeb a'm derbyn." Eithr ni phery hyn ddim yn hir iawn, canys mi a wn am lawer o Galfiniaid cedyrn sydd eisoes wedi mynd mor anffyddlon i'w pobl eu hunain fel na phrynant ddim te diflas gan eu brodyr yn y ffydd os gallant gael te blasus am yr un bris gan Weslead.
Oddieithr pedwar neu bump, rhaid addef bod ysgrifenwyr Cymraeg pob cyfnod yn pallu mewn gwreiddioldeb neu ddyfeisgarwch, yr hyn sydd ball pwysig. Y mae hyn yn dyfod yn hytrach o ddiffyg dewrder nag o ddiffyg dawn, canys y mae gwerin y genedl, pa un bynnag ai wrth y pentan ai mewn dosbarth yn yr Ysgol Sul, yn dangos cymaint o wreiddioldeb â gwerin unrhyw genedl. Eithr pan elo Cymro o'r Ysgol Sul i'r coleg, y mae o'n peidio â dychmygu er mwyn gallu cofio. Er ei fod yn hunanol ddigon, ac yn fwy cysetlyd nag un cenedl-ddyn o dan haul, eto pan elo i sgrifennu traethawd neu bregeth neu lyfr, fo fwria ymaith ei hyder, a