Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydynt, ddim yn waith hollol wreiddiol of defnydd na chynllun. Pe rhoem fod hynny'n wir, fe ellid haeru bod yn y gwaith ddigon o brofion i ddangos bod yr awdur ei hun yn un tra gwreiddiol; canys y mae y pethau a dynnodd o allan o'i feddwl ei hun yn llawn cystal â'r pethau a ddygodd oddi ar Quevedo, os bernir gwaith yr awdur Sbaeneg hwn wrth y cyfieithiad Saesneg ohono oedd gan Elis Wynn; ac nid yw'r pethau a ddygodd oddi ar Milton, ar ôl eu troi i iaith rydd, yn ymddangos ddim mwy Miltwnaidd na llawer o bethau eraill yn y Gweledigaethau sy'n perthyn yn ddiamheuol i'r Bardd Cwsg ei hun. Y mae gwastadrwydd ei waith o'i ddechrau i'w ddiwedd yn dangos mai gan ei gydradd ac nid gan ei well y bendithiwyd ef, ac nad ysbeiliodd o eraill o ddim nad oedd ganddo ei gystal yn ei feddiant ei hun. Ysbeilio a wnaeth efô am ei fod yn drachwantus ac nid am ei fod yn dlawd. Er hyn oll, ysbeilio ysbeilwyr a sglyfaetha sglyfaeth a wnaeth y Bardd Cwsg, canys nid oedd efô wedi'r cwbl yn fwy dyledus i Quevedo nag oedd Quevedo i Cervantes, nac mor ddyledus o lawer i Milton ag oedd Milton ei hun i'r Italiad Andreini a'r Ffrancwyr St. Avitus a Du Bartas.

Boed a fynno, ni bu gan y Cymry er amser y