Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diwygiad Protestannaidd un ysgrifennwr mwy gwreiddiol nag Elis Wynn. Mewn asbri, arabedd, a gwawdiaith, ychydig iawn yn y byd oll sy'n rhagori arno. Yn wir, y mae o mor llawn o'r pethau hyn fel y mae o'n pallu mewn afiaith, sef mewn humor—os goddefir imi seinio gair Lladin fel gair Cymraeg. Awdur Don Quijote ydyw'r unig un, hyd y gwn i, sydd wedi medru bod yn afieithus ac yn arabeddus ar yr un pryd. Y mae awduron mwyaf afieithus y Saeson yn ysgrifennu'n rhy wasgarog i fod yn arabeddus, ac y mae ysgrifenwyr mwyaf arabeddus y Ffrancwyr yn ysgrifennu'n rhy gryno i fod yn afieithus; canys crynoder sy'n dygymod orau ag arabedd, ac anghrynoder sy'n dygymod orau ag afiaith. Math o ddigrifwch—o ysmaldod—yw arabedd ac afiaith; eithr digrifwch sych yw arabedd am mai ffrwyth dealltwriaeth ydyw, a digrifwch llaith yw afiaith am mai ffrwyth teimlad ydyw. Digrifwch dealltwriaethol, sef y digrifwch sy'n hynodi'r Ffrancwyr, yw digrifwch Elis Wynn, ac y mae hwn, pan fyddo'n gryf mewn dyn, yn gwthio ymaith ddifrifwch. Y mae'r Bardd Cwsg yn rhy ddigrifol i fod yn ddwys, ac yn rhy ddigrifol i fod yn wir aruchel. Yr ydys yn teimlo ei fod yn ei elfen wrth ddarlunio " cwrs y byd," eithr wedi iddo "ar adenydd ffansi" fyned i diriog-