Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae Elis Wynn yn dangos dau allu na sylwais i ddim arnynt hyd yn ddiweddar, ac nad oeddwn yn disgwyl eu cael mewn awdur mor chwareus, sef gallu barnwrol a gallu ymresymol o radd bur uchel. Chwi a gewch enghraifft o'r ddeubeth hyn yn ateb Lucifer i'w dywysogion yn agos i ddiwedd y llyfr.

Yn ei feistrolaeth ar eiriau grymus, y mae Elis Wynn yn gystadl â Theophilus Evans, ac yn rhagori arno mewn llyfnder a miniogrwydd ymadrodd. Yn y peth olaf, sef miniogrwydd, y mae'n rhagori ar bawb a fu o'i flaen ac ar ei ôl. Nid oes neb chwaith yn y ddau gyfnod olaf a chanddo glust mor gerddgar ag ef. Sylwch ar fydr a chynghanedd yr ymadroddion blaenaf yn ei lyfr, ac yn enwedig ar le a gwaith y gytsain g:

Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog, cymerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbïenddrych i helpu'm golwg egwan i weled pell yn agos a phethau bychain yn fawr. Trwy yr awyr denau eglur, a'r tes ysblennydd tawel, canfyddwn ymhell bell tros Fôr y Werddon lawer golygiad hyfryd. O'r diwedd, wedi porthi fy llygaid ar bob rhyw hyfrydwch o'm hamgylch, onid oedd yr haul ar gyrraedd ei gaerau yn y gorllewin, gorweddais ar y gwellt glas, tan synfyfyrio deced a hawddgared (wrth fy ngwlad fy hun) oedd y gwledydd pell y gwelswn gip o olwg ar eu gwastadedd