Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tirion; a gwyched oedd cael arnynt lawn olwg; a dedwydded y rhai a welsant gwrs y byd wrthyf i a'm bath.

Fe fuasai'r dernyn hwn yn llyfnach, yn fwy clymedig, ac yn fwy Cymreigaidd fyth, pe buasai'r awdur, yn ôl arfer y prif awduron eraill (oddieithr Charles Edwards), yn arfer rhagenw o flaen y ferf, yn enwedig yng nghorff brawddeg. Heblaw hynny, y mae'r ferf"canfyddwn" heb ragenw o'i blaen, yn amwys.

A chymryd popeth ynghyd,

MORGAN LLWYD

sy'n haeddu'r lle nesaf i Elis Wynn. Mewn dwyster meddwl a dwyster teimlad, y mae'r Llwyd yn rhagori ar y Gwyn; er y rhaid addef bod y dwyster hwn yn ei wneud ef yn llai dynaidd, ac yn gulach ei gydymdeimlad, nag Elis Wynn. Er ei fod o ran amser yn y cyfnod Eglwysyddol, eto Ymneilltuwr oedd efô o ran ei syniadau. Yn wir, yr oedd o mor Ymneilltuol fel yr oedd, megis John Milton, wedi ymneilltuo oddi wrth gorff yr Ymneilltuwyr, ac yr oedd yn rhy annibynnol i fod yn Annibynnwr. Eithr er mai Ymneilltuwr oedd o, eto nid oedd o mor Biwritanaidd ei syniadau â llawer o'r Eglwyswyr; canys yr oedd ei ysbryd cyfriniol yn ei ddwyn yn agos at y Catholigion, a'i ysbryd ymchwilgar,