Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beirniadol, yn ei ddwyn yn agos at y Rhesymoliaid. O ran hynny, y mae Cyfriniaeth a Rhesymoliaeth, er bod eu brigau'n ymwahanu, yn tyfu oddi ar yr un bonyn. Yr un peth sy'n peri i rai ysbrydoli'r naturiol ag sy'n peri i eraill naturioli'r ysbrydol.

Er bod Morgan Llwyd mewn rhai pethau yn cyfranogi o ragfarnau'i oes, eto y mae o mewn pethau eraill ymhell o flaen ei oes. Nid oes un diwinydd Cymreig, nac odid ddiwinydd Seisnig chwaith, wedi rhagddangos cynifer o'r syniadau a gyhoeddir yn y dyddiau hyn mewn cyfrolau deg a chwech yr un gan Clark o Gaer Edni. Nid yw'r Prydeiniwr Heard yn ei Tripartite Nature of Man, na'r Ffrancwr Godet yn ei draethodau ar yr un pwnc, yn dywedyd odid ddim na ddywedwyd ddau can mlynedd yn ôl ar ddwy neu dair o ddalennau yn y Cyfarwyddyd i'r Cymro, ac yn y Tri Aderyn, o waith Morgan Llwyd. Fe fyddai'n ormod i mi ddyfynnu'r cwbl a ddywedodd yntau, eithr gwrandawer ar ychydig o frawddegau o'r ddau lyfr y cyfeiriwyd atynt:

Y mae gennyt etifeddiaeth o dair rhan, sef ysbryd ac enaid a chorff. Dy ysbryd di a ddaeth o'r Tad, fel rheswm o'r meddwl, fel gwreichionen o'r eirias, fel ffynnon o'r môr, neu fel anadl o'r genau yr hwn a chwythwyd i gorff