Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyn allan o fynwes Duw, ac sydd i ddychwelyd eilwaith i'w fynwes ef, yr hwn sy'n preswylio mewn plas a elwir Tragwyddoldeb. Dy enaid hefyd yw'r ysbryd naturiol a grewyd o'r elem— entau anweledig, yn ôl naturiaeth y telpyn pridd, yr hwn y mae efe yn lletya ynddo; er hynny, y mae'r enaid yma yn ffurfiwr i'r corff, ac yn ei agweddu yn ôl ei feddwl, i aros yn ei hafoty corfforol dros amser. Ac eto cwlwm yw yr enaid yma rhwng yr ysbryd a'r corff; a phan wisger ef allan drwy glefydau, neu ei dorri ffordd arall, y mae yr ysbryd yn ymollwng oddi wrth y corff i mewn, fel gŵr yn myned oddi cartref. mae enaid ymhob peth byw, a math ar ddeall gan bob anifail, ond nid oes ysbryd anfarwol mewn dim ond mewn dynion ac angylion. Yr enaid y mae dyn yn ei lun ei hun yn ei genhedlu, ond Duw yw tad (ac nid taid) yr ysbryd. Yr ysbryd yw neuadd yr enaid, a'r enaid yw porth yr ysbryd... Mae rhinweddau dyn naturiol yn ei enaid, a'i bechodau yn ei ysbryd. Mae rhinweddau dyn ysbrydol yn ei ysbryd, a'i bechodau yn unig yn ei enaid... Pam y mae ymrysonau ymysg ffyddloniaid? Am fod enaid y naill yn ymosod yn erbyn ysbryd y llall; canys yr un yw eu hysbryd hwynt oll yn Nuw, ond ni chytuna eu heneidiau daearol â'i gilydd.

Trowch i Ddogmateg Martensen, y pennaf o ddiwinyddion Lutheraidd yr oes hon, a darllenwch