Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei bennod ar Briodoliaethau Duw, a chwi welwch fod y frawddeg orau ynddi yn debyg iawn i gyfieithiad o'r frawddeg hon sydd yn y Tri Aderyn:

Nid yw Trugaredd a Chyfiawnder yn Nuw yn ymryson, ond yn digoni y naill y llall, ac yn ymborth yn ei gilydd erioed, fel llawenydd a thristwch yn yr un galon.

Yn lle gosod Trugaredd a Chyfiawnder i ymladd â'i gilydd fel math of "Punch and Judy" yn ôl arfer isel y diwinyddion Piwritanaidd a hen bregethwyr y Methodistiaid, y mae efô, yn gytunol â diwinyddion diweddarach a mwy athronyddol, yn edrych ar undod yr holl briodoliaethau yn yr YDWYF tragwyddol.

Pe buasai Vinet, yr hwn a elwir Pascal y Protestaniaid, yn byw o flaen Morgan Llwyd ac nid ar ei ôl, fe dyngasai rhywrai mai oddi ar y Ffrancwr hwnnw y lladratasai'r Cymro ei sylwadau gwych ar y Deml Ysbrydol. Er bod Pascal yn cydoesi ag ef, eto y mae'n anodd gennyf feddwl mai i'r awdur hwnnw y mae o'n ddyledus am rai o'r ymadroddion Pascalaidd sydd yn ei brif waith. Eithr fe ddichon mai o "Wladwriaeth " Platon yn ddigyfrwng neu yn gyfryngol y cafodd ei syniadau am ddelwau'r meddwl. Hyd yn oed pe buasai awen arafaidd Bunyan ac awen gynhyrfus Christmas