Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evans wedi ymgyfarfod ynddo fe fuasai'n anodd iddo sgrifennu dernyn mwy swynol na hwnnw lle y mae'r golomen yn adrodd ei hanes crefyddol; ac eto ni allai o fod yn ddyledus i Christmas Evans, nac yn wir i Bunyan chwaith. Y mae'n fuddiol darllen llyfr y Tri Aderyn am y rheswm hwn yn unig, sef bod ei awdur yn peri i'r darllenwr atgofio'r pethau a welodd rywbryd neu'i gilydd yng ngweithoedd prif awduron y gwahanol genhedloedd.

Pe bernid gwerth llyfr wrth nifer y brawddegau cynhwysfawr sydd ynddo, yna fe gyfrifid llyfr y Tri Aderyn ymhlith y goreuon o lyfrau'r byd; eithr nid crug o feini, pa mor werthfawr bynnag, ydyw llyfr, ond adeilwaith: a rhaid addef nad yw adeilwaith Morgan Llwyd yn deilwng o'r defnyddiau sy ganddo. Y mae'n frawddegwr gwych dros ben, ond paragraffwr gwael ydyw. Yn wir, nid yw llawer o'i baragraffau amgen na thwr o ddiarhebion, o ymadroddion diarhebol, ac o sylwadau byrion, heb ymresymiad na chysylltiad agos. Yn lle cyfres o frawddegau syml o'r un hyd, fe fuasai'n well gennych gael mwy o frawddegau cymalog, a mwy o arddodiaid rhyngddynt i fachu'r naill wrth y llall. Ac ystyried fyrred yw ei anadl, y mae ei arddull yn dda; ac y mae ei iaith hefyd, er ei bod yn gyffredin yn aflêr, yn aneglur, ac yn