Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anystwyth, bob amser "mewn grym" ac weithiau "mewn prydferthwch" hefyd. O sgrifennwr mor gryf, nid oes neb yn gallu sgrifennu'n dlysach nag ef. Pa beth a all fod yn dlysach na'r dychymyg hwn:

Mae'r bwa yn y cwmwl â'i ddeupen i wared ac nid i fyny, i ddangos nad yw'r Tad yn ewyllysio saethu at ddynion mwyach, ond yn gollwng ei fwa i lawr yn ei law. Mae rhan o'r enfys yn wyrddlas, i ddangos ddarfod boddi'r byd mewn dwfr; a rhan ohoni'n gochfelen, i ddangos y llosgir y byd â thân eto.

A pha beth a all fod yn fwy hapus na'i waith yn cyffelybu Cristionogion yn ymrafaelio â'i gilydd i frodyr Joseff yn ymryson ar y ffordd tua thŷ eu tad?

Pe buasai dysg Morgan Llwyd gymaint â'i ddawn, a'i fedr gymaint â'i allu, ac yntau wedi cael oes hwy a thawelach, fo allasai wneuthur llyfr y buasai ei glod yn cerdded i lawer gwlad.

THEOPHILUS EVANS

sy'n haeddu ei enwi'n drydydd ymhlith awduron y cyfnod. Y mae'n wir ei fod ef mor hygoelus fel nad ydys mwyach yn ei gyfrif yn hanesydd da; ond yr ydys eto'n mawrygu ei allu llenyddol gymaint ag yn amser ein teidiau. Yn y gallu hwn