y mae ef yn sefyll yn uwch o lawer na Morgan Llwyd, ac agos yn gyfuwch ag Elis Wynn. Er bod gradd o debygrwydd rhwng Elis Wynn a Morgan Llwyd, nid oes dim tebygrwydd rhwng un ohonynt a Theophilus Evans. Y mae hwn yn debycach i Morus Kyffin nag i un ysgrifennwr Cymraeg arall; canys y mae o fel hwnnw yn ysgrifennu'n hytrach yn llawn nag yn gryno, yn hytrach yn rhwydd nag yn fanwl. Mewn ymchwydd, sef yr hyn a eilw'r Saeson yn flow neu swing, y mae'r ardderchocaf Theophilus yn rhagori ar bawb oddieithr ar Morus Kyffin. Er bod y Gweledigaethau wedi eu cyhoeddi dair blynedd o flaen Drych y Prif Oesoedd,[1] a'r Tri Aderyn drigain mlynedd o flaen y Gweledigaethau, eto y mae Cymraeg y Drych yn fwy henaidd o lawer na Chymraeg y ddau lyfr hynny. Tra y mae Elis Wynn, a Morgan Llwyd, ac Edward James, ac eraill oedd yn byw o'i flaen, yn dodi'r ferf yn gyffredin yn nechrau ymadrodd syml, y mae Theophilus Evans yn llawn mor fynych yn dodi'r enw'n flaenaf. Y mae'n fwy ganddo fo glymu ymadroddion ynghyd, trwy ddwyn geiriau perthnasol yn agos at ei gilydd, na dangos arbwys. Rhaid addef bod llawer o'r
- ↑ Nid yw hyn yn hollol gywir. Dyddiad argraffiad cyntaf y Bardd Cwsc yw 1703, ac o'r Drych yw 1716.—Gol.