Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swyn yn dyfod o'r hendid hwn, ond fe fyddai'n well peidio â'i ddilyn yn hyn o beth, oddieithr pan fyddo'r syniadau'n gofyn iaith aruchel neu areithyddol. O ran hynny, y mae'n debygol nad ceisio bod yn henaidd ei Gymraeg yr oedd o, ond bod ei waith yn dyfal ddarllen y Brutiau yn ei febyd wedi gwneud ei Gymraeg yn fwy henaidd na Chymraeg ei gydoeswyr yn ddiarwybod iddo fo'i hun. Heblaw hynny, hanesydd neu chwedlonydd oedd efô, ac nid rhaid i hwnnw wrth iaith mor fanwl â'r athrawiaethwr.

Yn ei feistrolaeth ar eiriau a phriodebion Gymraeg, nid yw Theophilus Evans yn ail i neb; er y ceir yn ei lyfr hefyd, fel yn y Beibl, lawer o ffurfiau sydd erbyn hyn yn ymddangos yn anghymreigaidd.

Eithr nid er mwyn ei Gymraeg yn unig y dylid astudio'r awdur hwn, ond hefyd oblegid ei fawr ddawn, sydd bob amser yn ffrydio mor ddiymdrech â dwfr allan o ffynnon. Y mae ganddo agos cymaint o allu i adrodd, neu yn hytrach i chwedleua, ag sy gan awduron y Mabinogion; ac yn ei allu i ddarlunio, y mae o'n rhagori ar bob awdur Cymraeg. Y mae'n ddiau gennyf y gwnâi well gohebydd rhyfel na neb a sgrifennodd i bapurau Llundain o amser brwydr Waterloo hyd