Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser brwydr Plevna. Y pethau gorau eraill sy'n britho'r Drych, heblaw'r chwedlau a'r darluniadau, yw'r mân gyffelybiaethau sydd ynddo. Os gwyddoch am ryw lyfr diweddar mewn unrhyw iaith ag ynddo gyffelybiaethau tebycach i gyffelybiaethau byrraf y bardd Homer na'r rhai canlynol, fe fyddai'n dda gennyf gael gwybod ei enw:

Megis aderyn gwyllt pan dorrer ei esgyll, a fydd yn dychlamu ac yn selgyngian o gylch tŷ gydag un dof; ond pan dyfant drachefn, efe a ddengys o ba anian y mae: felly y Brithwyr hwythau, ar ôl iddynt ymgryfhau, ond yn enwedigol ar ôl iddynt ymgyfeillachu a'r Saeson a'r Ffrancod, rhuthro a wnaethant ar eu hen feistriaid, y Brytaniaid, a'u llarpio mor ddidrugaredd ag y llarpia haid o eryrod ddiadell o ŵyn.

Fe weithiodd hynny, yn wir, ryw gymaint o fraw ynddynt, ac a wnaeth i'w calonnau ysboncio ychydig; megis y gwelwch ddyn yn cilio yn drachwyllt wrth ganfod neidr yn ddiswta yn gwanu ei cholyn ac yn llamsach mewn perth.

Chwennych yr oeddynt godi mewn arfau, lladd eu meistriaid, a bwyta braster y wlad, ond eu bod yn ofni bod y Rhufeiniaid yn rhy galed iddynt; megis y gwelwch chwi bedwar neu bump o gorgwn, er cymaint a fo'u chwant, a safant o hirbell, gan edrych o yma draw heb feiddio peri aflonyddwch idd eu goreuon.