Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er gwahanu yr hen Frytaniaid oddi wrth ei gilydd, sef i Lydaw, a Chernyw, a Chymru, eto Ilawer gwaith y gwnaethant ymgais i hyrddu ymaith y gelynion, a bod yn ben drachefn; ond gormod o ymorchest oedd hynny, ac uwchben eu gallu; megis pan fo neidr wedi ei thorri yn dri darn, e fydd pob darn clwyfus dros encyd yn gwingo, ond heb allu byth ymgydio drachefn.

Yno y gwelid y saethau'n chwifio o'r naill lu at y llall, megis cafod o gesair yn ymdyrru pan fo gwynt gwrthwyneb yn eu gwthio draw ac yma.

Fe fyddai'n burion imi yma ddyfynnu'r ymadroddion sy'n dilyn y gyffelybiaeth olaf er mwyn rhoi enghraifft o ddawn yr awdur i ddarlunio:

Och! pa fath olwg dosturus a fyddai gweled rhai â'u hymysgaroedd allan, a'r meirch rhyfel yn ymddyrysu ym mherfedd a choluddion eraill; ambell ddart yn nhwll y llygad, a'r dyn eto yn fyw ac yn ymgynddeiriogi gan ei boen! ambell ddart yn y safn, y naill hanner y tu hyn, a'r hanner arall y tu draw i'r gwddf allan! ambell ddart yn y talcen dros yr adfach, a'r ymennydd yn glafoerio allan! ambell ddart yn disgyn ar y llurig neu'r astalch pres, ac yn seinio yn rhonc megis cloch! ac ambell ddart yn union at y galon ac yn diboeni mewn munud. Ac am ben hyn, yn lle meddygon i drin eu clwyfau, y meirch rhyfel yn ystrancio draw ac yma dros y