Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

clwyfus truain, yn briwo esgyrn rhai, yn llethu eraill; yn cernodio allan ymennydd rhai, a chalonnau ac ymysgaroedd eraill.

Os mynnwch gael enghraifft o allu'r awdur i gyfieithu, darllenwch ei gyfieithiad o "wiw bregeth St. Antwn" i'r "annwyl gariadus bysgod."

Er na ddylid cyfrif yr hen

CHARLES EDWARDS

gyda'r tri chedyrn a enwyd, eto, gan fod y cyffredin yn ei gyfrif yn hytrach yn awdur nag yn gyfieithwr, y mae o'n haeddu lle anrhydeddus ar ôl y tri hynny. Wrth ddarllen gweithoedd y tri chyntaf, eu hedmygu yr ydys oblegid eu doniau meddyliol; ond wrth ddarllen llyfr a rhagymadroddion Charles Edwards, ei garu yr ydys oblegid ei wylder, ei fwyneidd-dra, ac ireidd-dra ei ysbryd. Yn ddiau fe dywalltwyd gras ar ei wefusau, ac y mae enaint y Santaidd yn disgyn ar hyd ei farf. Ar ôl gwybod cymaint a wnaeth megis o'r tu ôl i'r llenni i ddyrchafu llenyddiaeth ei wlad, yr ydys yn ei garu'n fwy fyth. Rhwng popeth, efô yw'r awdur hawddgaraf sy gennym. Os cymwys oedd galw Daniel yn ŵr annwyl," Ioan yn "ddisgybl annwyl," a Luc yn "ffisigwr annwyl," llawn mor gymwys fyddai galw Charles Edwards yn awdur annwyl. Efô yw Fénelon Cymru; canys y