Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae pawb yn ei garu, er nad yw pawb yn ei gredu. Er hynny, dynion duwiolfrydig a all fwynhau Charles Edwards orau; canys y mae llawer o'r swyn sydd yn ei eiriau yn dyfod o'r eneiniad sydd arnynt. Ond fe all pob llenor, boed ef grefyddol neu anghrefyddol, brisio'i arddull dlos, a'i ffigurau gogleisiol. A dweud y gwir i gyd, y mae ei arddull yn well na'i iaith, fel y dengys y dyfyniad byr hwn:

Gwraig Job a lefarodd wrtho fel un o'r ynfydion; er hynny, ni phechodd ef â'i wefusau. Cawsai ddigon o rybudd oddi wrth Adda fel medrai Satan wneuthur bwa croes o'i asen ef i saethu ato ef ac i'w archolli; am hynny, gwiliodd ac ymgadwodd. Mor iachus ydoedd tymer ei ysbryd ef, nad allai yr haint oedd cyn nesed at ei fynwes ef mo'i amharu.

Yn y dernyn yma yr ydys yn gweled ar unwaith ym mha bethau yr oedd o'n rhagori, ac ym mha beth yr oedd o'n pallu. Ni all dim fod yn dlysach na'r syniad sydd yn y dernyn, na dim yn dlysach na'r ffurf y mae'r syniad yn ymddangos ynddo; ond fe allesid gwisgo'r peth mewn gwell iaith. Eithr un peth yn unig sy'n peri bod bai ar Gymraeg Charles Edwards, sef ei waith yn arfer rhagenwau lle nad oes mo'u heisiau; a'r hyn sydd waeth na hynny, yn peidio â'u harfer lle y mae eu heisiau.