Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y dernyn a ddyfynnwyd y mae o'n dywedyd, "wrtho ef," ato ef," ei asen ef," "ei ysbryd ef," "ei fynwes ef," pan fuasai'n ddigon iddo arfer ef ar ôl y gair asen yn unig; ond nid yw o'n arfer nac enw na rhagenw gyda'r berfau diberson cawsai ac ymgiliodd, fel na aller deall yn hawdd pa un ai dyn ynteu dynes, ai person ynteu peth, yw sylfon (subject) y ddwy ferf. Heblaw ei fod wrth beidio ag arfer rhagenw gyda chyfryw ferf yn tywyllu'r ystyr, y mae o hefyd yn gwneud aelodau brawddeg yn fwy ysgaredig ac afrywiog; canys y mae rhagenwau ar unwaith yn clymu ymadroddion, ac yn meddalu llythrennau celyd. Er enghraifft, y mae'r frawddeg, Pan ddaeth o'n agos, hi a gyfarchodd well iddo," yn eglurach, yn llyfnach, ac yn fwy cysylltiedig na'r frawddeg, "Pan ddaeth yn agos, cyfarchodd well iddo." Yr wyf yn pwyso cymaint ar hyn am fod y rhan fwyaf o sgrifenwyr yr oes hon wedi mynd i gredu os yw'n rhydd iddynt beidio ag arfer rhagenw gyda'r ffurfiau personol cyferchaist, cyfarchasoch, fod yn rhydd iddynt hefyd beidio ag arfer un gyda'r ffurf ddiberson cyfarchodd.[1] Y mae'n resyn fod gŵr

  1. Wrth ddywedyd hyn yr wyf yn golygu'n hytrach ystyr presennol y terfyniad na'i wreiddyn cuddiedig.—E. ap I.