Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor ddysgedig â Charles Edwards, trwy ei siampl, wedi rhoi lle iddynt i gredu peth mor gyfeiliornus.

O ran ei gynnwys, y mae'r rhan flaenaf, sef y rhan hanesyddol o waith Charles Edwards yn lled ddiwerth, am nad yw hi ddim amgen na chasgliad o chwedlau allan o Fucheddau'r Saint Catholig, ac o Hanes y Merthyron Protestannaidd gan Foxe; ac am hynny, fe ddylai'r darllenydd edrych ar y chwedlau hynny'n unig fel enghreifftiau o hygoeledd yr hen bobl. Y mae gan bob cyfundeb ei chwedloniaeth, ac os astudir chwedloniaeth Gristionogol fel yr ydys yn astudio chwedloniaeth Groeg a Rhufain, fe all yr astudiaeth wneud mwy o les nag o afles. Yn ddiweddar y dechreuwyd dysgu dywedyd y gwir yn noeth, ac y mae lle i ofni na byddys wedi gorffen dysgu cyn y delo'r mil blynyddoedd. Yn y cyfnod dymunol hwnnw fe ymddengys dywedyd celwydd ym mhlaid un cyfundeb, ac yn erbyn cyfundeb arall, yn arferiad mor waradwyddus â chyniweirio Lime Street ar ôl hanner nos.

Ymhlith awduron y cyfnod, efallai mai'r pedwar a enwyd yn unig a ellir eu cyfrif yn glasuron. Yr oedd ynddo sgrifenwyr eraill o radd uchel, ond prin y sgrifennodd rhai ohonynt yn ddigon helaeth, nac eraill ar bynciau digon pwysig, i haeddu cael