Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu galw'n awduron clasurol. Odid nad oedd Edmwnd Prys yn Gymreigydd llawn medrusach na Charles Edwards; er hynny, ni sgrifennodd o ddim mewn rhyddiaith y byddai'n wiw annog y cyffredin i'w ddarllen. Er gwerthfawroced ei gynnwys, ac er gwyched ei arddull yw Epistol Dr. Richard Davies "At y Cembru," eto yr wyf yn hwyrfrydig i'w osod ymhlith gweithoedd clasurol y Cymry; yn un peth, am ei fod mor fyr; ac yn beth arall, am fod ei Gymraeg mor Salsbrïaidd. Er darfod i Edward Samuel ysgrifennu lliaws o anerchiadau, a hyd yn oed un llyfryn sy'n rhywbeth amgen na chyfieithiad, eto ymhlith y cyfieithwyr clasurol ac nid ymhlith yr awduron clasurol y dylid ei restru ef. Y mae'n resyn bod cynifer o sgrifenwyr dysgedicaf a medrusaf y cyfnod hwn wedi ymfoddloni ar gyfieithu'n unig; a hynny'n fwy o achos bod y mân bethau gwreiddiol a ysgrifenasant yn dangos y gallasent ysgrifennu llyfrau amgenach nag amryw o'r llyfrau Saesneg y bu'n wiw ganddynt eu troi i'r Gymraeg. Yn fy marn i, ni all un cyfieithiad, pa mor dda bynnag, fod yn gyfieithiad clasurol, os na bydd o'n gyfieithiad o waith clasurol; am hynny nid wyf yn cyfrif y Llwybr Hyffordd, o gyfieithiad Robert Llwyd o'r Waen, a'r Ymarfer o Dduwioldeb, o