Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfieithiad Rowland Fychan o Gaer Gai, yn gyfieithiadau clasurol. Ie, y mae'n amheus gennyf a ddylid cyfrif Llyfr y Resolusion yn gyfieithiad clasurol. Er bod ei gyfieithydd, y Dr. John Davies o Fallwyd, yn un o'r Cymreigwyr gorau, eto nid oedd awdur y llyfr ddim yn un o'r awduron gorau, hyd yn oed yn ôl tystiolaeth ei gyd-grefyddwyr; canys yr oedd Robert Parsons yn rhy brysur yn ceisio adsefydlu'r ffydd Gatholig yn Lloegr i allu cael hamdden i wneuthur llyfr hirhoedlog. Os bu'r llyfr hwn farw yn Lloegr o eisiau hynodrwydd llenyddol, prin y byddai'n wiw ei atgyfodi yng Nghymru, hyd yn oed yn y corff ysbrydol a mwy Protestannaidd a roes Dr. Davies iddo.

Os ydys yn ymwrthod â Llyfr y Resolusion, pa beth ynteu sy'n aros i brofi bod Dr. Davies o Fallwyd yn un o'r cyfieithwyr gorau?—Ei waith yn cynorthwyo Dr. Richard Parry i ddiwygio cyfieithiad Dr. Morgan o'r Beibl. Eto i gyd, y mae Morgan yn haeddu mwy gogoniant na Davies a Parry, o gymaint ag y mae'r hwn a adeiladodd dŷ yn cael mwy o barch na'r rhai sy'n ei atgyweirio. Y mae'n wir y dywed Dr. Morgan mai diwygio a wnaeth yntau gyfieithiad Salsbri o'r Testament Newydd, ond nid oedd gan Morgan fel Cymreigiwr ddim i'w ddysgu gan Salsbri. Y mae cynefindra