Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â Chymraeg William Morgan, fel y diwygiwyd gan John Davies a Richard Parry, yn peri i'r cyffredin feddwl na allasai neb arall newidio dim arno heb ei niweidio. Eto os bwriwn ymaith y rhagfarn sy'n dyfod o hirymarfer â rhywbeth, fe fyddai'n rhaid inni addef bod un o leiaf a allasai wellhau llawer ar Gymraeg y Beibl; canys y mae'r cyfieithiad o'r adnodau a geir yn Llyfr yr Homilïau yn fwy Cymreigaidd na chyfieithiad neb arall.

Y mae crybwyll am y llyfr hwn yn fy nwyn at ei gyfieithydd,

EDWARD JAMES,

un o'r ddau bennaf o'r holl gyfieithwyr Cymraeg, a'r cywiraf o'n holl ysgrifenwyr yn gyfieithwyr ac yn awduron. Nid gwiw sôn am arddull unrhyw gyfieithydd, am fod cyfieithydd wrth reswm yn ceisio sgrifennu yn arddull gŵr arall; ond pe buasai Edward James yn awdur, fe fuasai ganddo fo arddull o'r fath orau, fel y prawf ei ragymadrodd i'w gyfieithiad o'r Homiliau. Ym mha ran o lenoriaeth Gymraeg; ie, ym mha ran o lenoriaeth Saesneg y tu allan i gampwaith Hooker, y cewch chwi well enghraifft o'r hen arddull ddyrchafedig na'r ddwy neu dair brawddeg hir ond ystwyth hyn:

Yr Homiliau hyn hefyd, am eu bod mor fuddiol, a orchymynnodd yr ardderchog Fren-