Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hines Elizabeth eu hargraffu eilwaith; a hi a roddodd yr un gorchymyn am eu cadw hwy ag a roesai ei brawd duwiol yn y blaen. Ac megis na ellir dywedyd fod ar y ddaear erioed Dywysog a ddangosodd ym mhob peth arall fwy o zel at Dduw nac o ofal dros ei ddeiliaid na'r Brenin godidog ardderchog duwiol James ein grasusaf Frenin a'n Llywydd, felly yn y peth hyn ni ddangosodd efe ddim llai o'r fath zel a gofal nag a ddangosasai y Brenin Edward VI, a'r Frenhines Elizabeth, o'i flaen ef. Oherwydd yntau trwy gyfraith eglwysig (fel y gellir gweled yn 46 Canon a wnaeth y Gymanfa Esgobion ac Eglwyswyr a gynhaliwyd yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ef ar Brydain Fawr, Ffrainc, ac Iwerddon, yr hon a gadarnhaodd ei fawrhydi ef â'i awdurdod goruchel brenhinol) a roes orch ymyn caled ar fod i bob Person, Ficar, a Churat, ddarllen yr Homiliau hyn bob Sul a Gŵyl (o ddiffyg pregeth) ymhob Eglwys Blwyf a Chapel o fewn y deyrnas, fel y gallai y rhai ni chlywant lafar pregethwr ond yn anaml, wrth arfer o glywed y pregethau duwiol dysgedig hyn yn fynych, ddysgu mewn amser gredu yn Nuw yn union ac yn ffyddlon, galw arno yn ddifrif ac yn deilwng, gwneuthur y cwbl o'u dyled tuag at Dduw a'u cymydogion, ac ymddwyn felly yn y byd hwn yn ôl gwybodaeth fel y caffont fwynhau bywyd tragwyddol yn y byd a ddaw trwy ein Iachawdwr Iesu Grist.