Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un gwaith gwreiddiol sy'n fwy Cymreigaidd nag ef. Er ei fod yn un o gyfieithiadau hynaf y cyfnod, y mae ei Gymraeg yn fwy diweddar ei ddull na Chymraeg un llyfr safonol oddieithr y Gweledigaethau ac mewn cywirdeb a manylder y mae o'n rhagori ar Gymraeg pob llyfr y gwn i amdano. Fe ddywedir am rai, megis Pascal yn Ffrainc, a Lessing yn yr Almaen, eu bod wedi sefydlu'r iaith yr oeddynt yn ysgrifennu ynddi. Ni bu neb yn nes i sefydlu'r Gymraeg nag Edward James. Lle na all efô fod yn gryno heb fod yn aneglur, y mae'n fforffedu crynoder er mwyn eglurder. Yn gytunol â hyn, ni bydd o odid byth yn arfer berf yn y ffurf a gamelwir yn " 3ydd person unigol" heb enw neu ragenw yn sylfon iddi. Yn gyffredin y mae o'n arfer rhagenwau o flaen ffurfiau personol y ferf hefyd; ac weithiau (a hynny er mwyn gochel amwysedd yn unig, ac nid er mwyn dangos arbwys) y mae yn eu harfer ar ôl ffurfiau personol, yn enwedig ar ôl berf yn y 3ydd person lluosog. Pan fo sylfon berf ar ei hôl, a'r sylfon hwnnw'n enw, y mae o'n arfer fe o flaen y ferf i wasanaethu yn rhagarweinydd i'r enw. Er mwyn dangos yn fanylach yr amser presennol, y mae o'n mynych arfer y ffurfiau amhersonol ydys a byddys. Hyd yn oed mewn ymadrodd cysylltiol, anfynych y mae