Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'n arfer y ffurf ddyfodol i ddynodi'r amser presennol; canys yn lle dywedyd, "y'n cyfiawnheir," "y'i dygir (ef)," y mae o'n dywedyd, "fod yn ein cyfiawnhau," "fod yn ei ddwyn."

Gan fod y syniadau sydd yn yr Homilïau yn hytrach yn Ysgrythurol a syber nag yn newydd a disglair, a bod y brawddegau gan mwyaf yn dra chymalog, rhaid addef nad yw'r cyfieithiad hwn ddim yn un o'r pethau hyfrytaf i'w ddarllen. Er hynny, gan fod rhannau pob brawddeg wedi eu cymwys gydgysylltu, a'r geiriau ymhob rhan wedi eu hiawn drefnu, y mae'n fuddiolach i lenor ifanc a fynno ddisgyblu ei feddwl, ddarllen y cyfieithiad o'r Homilïau nag odid un llyfr arall a gyhoeddwyd yn iaith y Cymry.

Dywedais mai Edward James oedd un o'r ddau bennaf o'n cyfieithwyr. Pe dywedaswn mai efô oedd y pennaf o'r cwbl, y mae arnaf ofn y gwnaethwn gam â'r hen

FORUS KYFFIN,

cyfieithydd dawnus Deffynniad y Ffydd, o waith yr Esgob Jewel; canys er bod Edward James yn rhagori arno mewn coethder, cywirdeb, a manylder, y mae yntau'n rhagori ar Edward James mewn rhwyddineb, ystwythder a hoywder. Y mae Cymraeg Edward James yn gyffelyb i sgrifen gron, a