Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chymraeg Morus Kyffin yn gyffelyb i sgrifen redeg: ac er bod hon yn arwydd o law fwy hyfedr na'r llall, y mae'n ddiogelach i ddisgyblion ifainc gymryd ysgrifen gron yn gynllun. Astudied y cyfryw rai Gymraeg Edward James yn gyntaf er mwyn dysgu sgrifennu'n bur; ac wedyn astudiant Gymraeg Morus Kyffin er mwyn dysgu sgrifennu'n wych. Er cystal yw Cymraeg Edward James yn ei gyfieithiad, eto y mae Cymraeg ei Ragymadrodd ef ei hun yn fwy urddasol. Yn y gwrthwyneb, y mae Cymraeg Morus Kyffin yn ymddangos yn llawn cystal yn ei gyfieithiad ag yn ei Ragymadrodd. O ran arddull y mae Rhagymadrodd James yn rhagori ar Ragymadrodd Kyffin, a chyfieithiad Kyffin yn rhagori ar gyfieithiad James. Ond y mae'r rhagoriaeth hwn yn ei gyfieithiad yn dyfod yn bennaf o hyn: sef bod arddull yr Esgob Jewel ei hun yn well yn y Deffynniad nag yn yr Homiliau. Heblaw hynny, gan mai o'r Lladin ac nid o'r Saesneg y cyfieithodd Kyffin Ddeffynniad y Ffydd, yr oedd math o orfod arno i gyfieithu'n rhyddach.

Yn ei fedr i gyfieithu brawddegau hirion, cyfansawdd, y mae Morus Kyffin yn gyfartal ag Edward James. Y mae gan Jewel yn nechrau'i lyfr un frawddeg sy'n ymestyn dros fwy na thudalen a hanner o faint cyffredin. Er hynny, y mae Kyffin