Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ymfwrw iddi yn y pen yma mor ddihafarch, ac yn dyfod allan ohoni yn y pen draw mor llwyddiannus â dyfrgi yn croesi afon. Pe buasai cyfieithydd cyffredin yn ymosod ar y fath orchwyl, fe fuasai'n wiw iddo cyn dechrau ddiogelu ei fywyd a chanu'n iach i'w berthnasau.

Rhag eich blino â meithder, ychydig iawn a ddywedaf am y cyfieithwyr eraill.

EDWARD SAMUEL

yn ddiau sy'n haeddu cael ei osod yn nesaf i'r ddau a enwyd, gan ei fod yn Gymreigydd dillyn odiaeth. Ni chyfieithodd un Cymro arall gynifer o lyfrau gwerthfawr. Yn ei amser ef yr oeddid yn eu cyfrif hwynt oll yn weithoedd safonol, ac yr ydys eto'n cyfrif mwy nag un ohonynt felly. Y gorau o'r cwbl yn ddiau yw gwaith Hugo Grotius ar Wirionedd y Grefydd Gristionogol, sy'n haeddu bod yn llyfr dosbarth yn ein colegau diwinyddol. Dyma'r pethau eraill a gyfieithodd o: Holl Ddyledswydd Dyn; Athrawiaeth yr Eglwys, sef detholiad o'r Homilïau wedi eu newyddu gan Dr. Nourse; a rhai o weithoedd Dr. Beveridge. Er nad oes dim llawer o wreiddioldeb yn ei lyfr ar Fucheddau yr Apostolion a'r Efengylwyr, y mae hwn yn rhywbeth amgenach na chyfieithiad. Er nad yw iaith Edward Samuel yn hwn ddim mor Gymreigaidd ag mewn amryw