Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'i gyfieithiadau, eto gan ei fod yn cynnwys cryno— deb cyfleus o hanes prif ddynion y Testament Newydd, y mae'r llyfr yn haeddu ei argraffu unwaith eto.

Ac ystyried popeth, rhaid gosod y gwlatgar a'r gweithgar

STEPHEN HUGHES

yn is nag Edward Samuel; eithr gan ei fod yn ysgrifennu'n rhyddach ac yn fwy naturiol, y mae mwy o swyn ynddo nag sydd yn Samuel. Y mae ei gyfieithiad o Daith y Pererin mor rhydd fel y byddai'n gymhwysach ei alw'n amgeneiriad. Gŵr gwylaidd iawn oedd Stephen Hughes; er hynny, y mae o'n honni bod y cyfaddasiad Cymraeg hwn yn llai blinderus ac yn fwy dealladwy na'r gwaith gwreiddiol, am ddarfod gadael allan ohono bethau a adroddid fwy nag unwaith, a dwyn i mewn iddo bethau eraill oedd yn angenrheidiol i egluro'r ystyr. Pa un bynnag ai gwell ai gwaeth yw Taith Pererin Stephen Hughes na Thaith Pererin Bunyan, y mae'n ddiamau gennyf i ei fod yn fwy darllenadwy nag un cyfieithiad Cymraeg a wnaed yn ddiweddarach. Er bod Cymraeg y llyfr yn bur o ran ei ymadroddion, lled werinaidd ydyw o ran y geiriau. Ac nid gwedd y geiriau yn unig sydd yn werinaidd —y mae'r geiriau eu hunain felly yn gyffredin.