Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond yr ydys yn teimlo bod hyn yn hytrach yn addas nag yn anaddas mewn cyfieithiad o lyfr syml a fwriadwyd i bawb o bob oed ac o bob dosbarth. Y mae'n hawdd gweled wrth bob peth a sgrifennodd Stephen Hughes ei fod yn credu y dylai iaith llyfr fod yn debycach i iaith lafar. Er hynny, nid oes un o'n hysgrifenwyr a chanddo Gymraeg llai taleithiol nag ef. Er mwyn gwneud Cymraeg ei gyfieithiad yn Gymraeg Tywysogaethol fo ddewisodd dri chynorthwywr o wahanol barthau o Gymru. Pan fo gair Deheuol da yn ddieithr i Gymry'r Gogledd, y mae o ar ymyl y ddalen yn ei egluro â gair Gogleddol; a phan fo gair Gogleddol da yn ddieithr i Gymry'r De, y mae o'n egluro hwnnw â gair Deheuol. Er mai Deheuwr oedd ef ei hun, eto rhag ffafrio'r Deheubarth yn fwy na'r Gogleddbarth, y mae o'n gyffredin, fel Edmwnd Prys, yn arfer y rhagenw fo yn sylfon berf, ac ef yn wrthrych iddi; megis, "Fo a'i gwelodd ef." A llefaru'n fanylach, fo ydyw'r rhagenw sydd ganddo yn y cyflwr enwadol (nominative), ac ef ymhob cyflwr arall. Yr wyf i'n meddwl mai da y gwnâi llenorion yn ei ddilyn yn hyn o beth, canys paham y dylem beri i'r un a'r unrhyw ragenw wneud dau waith, a chennym ninnau ragenw arall yn sefyll yn segur? Y mae gan y Saeson eu he a'u him, yr