Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn sydd yn fantais fawr. Pa beth sy'n rhwystro i ninnau arfer fo ac o am he, ac efô am he arbwysig, ac arfer ef am him, ac efe am him arbwysig neu gyferbyniadol? Y mae'n wir fod cyfieithwyr y Beibl yn arfer y ffurf efe i ddynodi sylfon berf, ond y mae honno'n rhy hir i fod yn rhagenw syml; heblaw fod arfer rhagenw dyblyg yn lle rhagenw syml yn ei gwneud hi'n anodd i ddarllenydd wybod pa bryd y bydd y rhagenw yn arbwysig, a pha bryd na bydd o ddim.

Y mae Pattrwn y Gwir Gristion, sef cyfieithiad

HUW OWEN O FON

o'r Imitatio Christi, yn fwy gwerinaidd fyth—yn rhy werinaidd ond odid. Er hynny, y mae'r cyf— ieithydd wedi llwyddo'n rhyfedd i gadw'r swyn sydd yn y llyfr byd—enwog hwnnw. Pa symledd, pa heneidd—dra, pa ysbrydolrwydd bynnag, a berthyn i'r gwaith gwreiddiol, fe ellid meddwl na chollwyd nemor ohonynt yn y cyfieithiad Cymraeg. Yn wir, y mae hwn, er cynifer o fân wallau sydd arno, mor annhebyg i gyfieithiad fel yr ydys yn anghofio mai cyfieithiad ydyw. Yn unig trwy ei gymharu â chyfieithiad Dr. Challoner, a chyfieithiadau Saesneg eraill, y canfyddir gymaint y mae'n rhagori mewn naturioldeb. Gan fod hwn yn gyfieithiad mor ddarllenadwy o lyfr y bu mwy o ddarllen arno