Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nag ar un llyfr crefyddol arall, y mae'n rhyfedd na bai argraffwyr Cymru'n ymryson pwy ohonynt a fyddai'n gyntaf i ddwyn allan argraffiad hardd ohono tebyg i'r argraffiadau Saesneg.

Beth am

JOHN LANGFORD,

cyfieithydd cyntaf Holl Ddyledswydd Dyn—a ydyw yntau ymhlith y clasuron? Bron na thebygwn ei fod; a hynny am reswm amgenach na'i fod yn byw yn Rhuthyn ddeucant a chwarter o flynyddoedd yn ôl. Yn flaenaf oll, fo gyfieithodd un o'r ddau lyfr defosiynol mwyaf eu bri a gyhoeddwyd erioed yn Lloegr; a'r hyn sy fwy, fo a'i cyfieithodd yn bur foddhaol hefyd. Er cynifer o feiau sydd ar ei gyfieithiad, eto y mae o'n llawn mor ddymunol i'w ddarllen ag yw cyfieithiad Elis Wynn o Holy Living Jeremy Taylor; er ei bod yn iawn dweud bod Elis Wynn yn iau ac yn anfedrusach pan gyfieithodd o'r gwaith hwnnw na phan wnaeth o'r Gweledigaethau'. Y mae'r geiriau yng Nghymraeg John Langford yn llai gwerinaidd o beth na geiriau Huw Owen, Stephen Hughes, a Morus Kyffin; eithr y mae yntau'n gyffredin yn bwrw allan y llythyren t o'r terfyniadau berfol —ant, —ent, —ont; ac yn troi'r terfyniadau —ym, —em, —om, yn