Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—yn, —en, —on o flaen y rhagenw ni.[1] Y mae o, fel y Dr. Morgan ac eraill, yn troi'r terfyniad berfol ai yn e, ac yn arfer fo yn lle ef ac efe, a nhw yn lle hwy, a hwynt; eithr y ffurf lenyddol ef y mae o yn ei harfer ar ôl gair a derfyno mewn cytsain.

Am ysgrifenwyr Cymraeg un cyfnod y bûm i'n traethu heno; ac yr wyf wedi dangos bod gennym yn y cyfnod byr hwnnw ddeg o leiaf o sgrifenwyr clasurol, ac ychwaneg na hynny o lyfrau clasurol. Mynych y bydd rhywrai sy'n medru Saesneg yn cwyno nad oes yn y Gymraeg ddim llyfrau teilwng i'w darllen. Ni fynnwn innau ddywedyd bod llyfrau gorau'r Cymry agos cystal â llyfrau gorau'r Saeson, ond yr wyf yn dywedyd yn ddibetrus eu bod yn well o lawer na'r rhan fwyaf o'r llyfrau Saesneg y mae'r cyffredin yn dewis eu darllen. Os tybia rhai Cymry eu bod, o wybod enwau'r prif awduron Saesneg, wedi myned yn ormod o wŷr i edrych ar lyfrau Morgan Llwyd ac Elis Wynn, paham ynteu na ddarllenant y cyfieithiadau gwych sy gennym o sgrifeniadau Cranmer, Latimer, Jewel, Jeremy Taylor, Beveridge, a John Bunyan? Ac os dywedant ymhellach fod yr awduron hyn yn fwy

  1. Yn y gwrthwyneb, troi'r rhagenw ni yn mi, ac nid newid y terfyniadau berfol y mae Dr. Gruffydd Roberts, Morys Clynog, a Morus Kyffin—ffordd sy'n ymddangos yn chwithig i ochel dybryd sain.—E. ap I.