Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu bri yn Lloegr nag yn y byd, paham na ddarllenant y cyfieithiadau sy gennym o weithoedd Grotius a Thomas a Kempis? Canys nid oes yn y Saesneg gyfieithiadau gwell na'r rhain, os oes eu cystal. Ni ellir gwadu nad Cymru fechan yw hen wlad ein tadau, yn llenyddol yn gystal ag yn ddaearyddol; ond tra bo cerrig ym mynyddoedd Arfon, a glo yn naear Morgannwg; tra bo gennym y Gododdin, y Mabinogion, a chaniadau Dafydd ap Gwilym, ynghyd â thrysorau eraill nid ychydig o'i amser ef hyd amser Lewis Edwards, na ddyweded neb am Gymru ei bod, o ran ei thir na'i llenyddiaeth, yn Gymru fechan dlawd.

ALLAN O'R Geninen, IONAWR 1894.