Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rawnwin, nag esgyn i ben Piscah i olygu'r wlad o ben bwy gilydd. I'r rhai y mae ganddynt arddull, y ffordd orau y gwn i amdani i wellhau'r arddull hwnnw ydyw mynnu'n gyntaf oll lyfrau'n cynnwys enghreifftiau o waith pob awdur enwog ym mhob iaith a fyddo'n hysbys iddynt, ac yna darllen yn ddyfal weithoedd yr awdur y byddo'i arddull yn debycaf i'w harddull amherffeithiach hwy eu hunain. Wrth gymryd y cyfryw un yn gynllun, nid dynwared rhywun arall y byddant, ond datblygu eu dawn eu hunain. Pan fyddo'r awdur a ddewiser yn gynllun yn pallu mewn rhywbeth gwerthfawr, fe ddylai'r darllenwr ar yr un pryd ddarllen gwaith rhyw awdur arall a fyddo'n rhagori yn y peth hwnnw. Hyn a geidw'r disgybl rhag mynd yn gaethwas i'w athro.

Mewn llyfrau sy'n ymdrin ag areitheg, yr ydys yn sôn am arddull aruchel, arddull syml, ac arddulliau eraill. Yn hytrach na dweud dim am y rheini, sylwi'n fyr a wnaf i o hyn i'r diwedd ar rai o'r teithi neu'r rhinweddau sy'n briodol i bob rhyw arddull.

PURDEB ydyw'r peth blaenaf. Y mae a wnelo hwn â geiriau ac ag ymadroddion, sef cyfuniad o eiriau. Er na fynnwn ichwi fod yn bureiniaid neu yn Phariseaid llenorol, fe ddylai'r holl eiriau a arferwch wrth bregethu fod yn Gymreigaidd eu dull, os nad yn Gymraeg o ran gwreiddyn. Y mae