ynddi. I'r meddyliwr manwl, cyfoeth y Gymraeg ac nid ei thlodi sy'n peri anhawster. "Pa air a ddewisaf?" ac nid "Pa air a gaf?" yw ei waedd ef.
Ond hwyrach y dywedir mai er mwyn eraill ac nid er mwyn arbed trafferth iddo'i hun y mae ambell bregethwr yn arfer geiriau Saesneg ac ymadroddion Seisnigaidd. Pe buasai amser gallaswn brofi bod parchu iaith yn beth llawn pwysicach na boddhau eraill, hyd yn oed a golygu'r peth oddi ar dir moesoldeb a chrefydd. Y mae'n sicr fod cyfieithwyr y Beibl mor awyddus i chwilio am eiriau dealladwy â neb ohonom; ond chwilio am eiriau cymeradwy oedd bennaf yn eu golwg. Am hynny fe fu'n well ganddynt hwy ddwyn i'r cyfieithiad Cymraeg eiriau a phriodweddion diarfer na dwyn rhai estronol, er y buasai'r rheini'n fwy cynefin. A phan fyddai raid iddynt wrth air estronol, dwyn ei gorff yn unig a wnaent; rhoddent iddo'n gyffredin ben a chynffon o'u hiaith eu hun, gan ei wneud felly yn air y gellid ei dreiglo fel geiriau cwbl Gymraeg. Fel mai hawdd cynnau tân ar hen aelwyd, felly hawdd yw dwyn ar arfer eiriau a fydd wedi mynd yn ddiarfer, os byddant yn eiriau persain a da. Y mae'r cyfryw eiriau, fel rheol, yn eu hesbonio'u hunain yn well na geiriau estronol.