Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/91

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arfer rhagenw rhwng gair â chytsain yn ei ddiwedd a gair arall â chytsain yn ei ddechrau, megis "Y mae arnat—ti swllt," neu "Y mae arnati swllt," yn lle "Y mae arnat swllt."

Mynych y clywais i ddywedyd bod pregethwyr yr oes o'r blaen yn fwy naturiol na phregethwyr yr oes hon, a phregethwyr yr oes hon yn fwy celfydd na rhai'r oes o'r blaen. Os wyf i'n deall ystyr y gair "celfydd," yna nid wyf yn petruso dywedyd bod yr hen bregethwyr yn fwy celfydd o lawer na ni; ac am eu bod yn fwy celfydd yr oeddynt yn fwy naturiol. Rhai o'r to diwethaf o bregethwyr a glywais i, y mae'n wir; ond clywais adrodd darnau o bregethau a draddodwyd gan do cynharach, ac os ydyw'n iawn eu barnu wrth y darnau hynny, yr oeddynt yn dra chelfydd. Yr oeddynt yn arfer pob dyfais gyfreithlon i ochel dybryd sain, ac i amlhau seiniau llafar.[1] Yr oedd cynghanedd yn eu geiriau a mesur ar eu brawddegau, ac y mae'n amlwg eu bod, wrth lunio'u brawddegau, yn fwy gofalus na ni i astudio hyd eu hanadl. Yr oedd y gofyniad, "Pa fodd y canaf?" mor bwysig yn eu golwg hwy ag ydyw'r gofyniad, "Pa beth a waeddaf?" yn ein golwg

  1. Megis o flaen l, m, n ac r yn y fath eiriau â magl, storm, edn, sobr.—E. ap I.