Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

syniadau ag ef. Dyma a ddywed y Proffeswr Zimmer o'r Almaen amdano wrth ohebydd y Celt: "A! bachgen iawn ydyw Emrys. Dyna Gymro yn wir yn yr hwn nid oes dim twyll. Ond am rai o'ch ysgolorion, dyn a'u helpo!"

Er cystal yw'r disgrifiad hwn gan Emrys ap Iwan ohono'i hun a'i neges, y mae, fel y mae'n gweddu, un peth mawr ar ôl, sef ansawdd ei Gristnogaeth. Bwriadwyd i'r gyfrol hon fod yn dystiolaeth o hyn. Yr oedd ei grefydd yn ddwfn ac yn eang, ac yn rhoi cadernid i'w holl argyhoeddiadau am na chedwid hi ar wahân i'r un ohonynt. Ymboenai â threfniadau manylaf yr eglwys am fod cymaint yn dibynnu ar ei heffeithiolrwydd fel cymdeithas. Ceisiai erlid pob rhith ohoni er mwyn amlygu ei grym. Dyma paham y beiddiai sathru hyd yn oed ar deimladau anwylaf rhai credinwyr, megis yn yr anerchiad ar y cyfarfod gweddi. Er ei fod yn ansicr o werth y weddi gyhoeddus, eto y mae ei lawysgrifau yn dyst o'i fawr ofal wrth baratoi ei weddïau cyhoeddus ei hun. Ymgodymai ag anawsterau disgyblaeth eglwysig, a phraw o'i welediad clir a threiddgar i gymhlethdod y pwnc yw ei fod ar adegau yn llymach ei farn nag ar adegau eraill. Gwelai gymaint oedd ynghlwm wrth y mater. Yn anad dim mynnai ochel plwyfoldeb a bychander a hunangyfiawnder cecrus sectyddiaeth, ac yr oedd ei weledigaeth o Eglwys Crist fel un tyfiant byw gogoneddus ac amlganghennog yn