Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iddewon, sef yr Aramaeg a'r iaith Roeg. Nid wyf yn credu y dysgir heddiw mai amod derbyn i'r Canon oedd bod llyfr wedi ei ysgrifennu yn yr Hebraeg. A hefyd fe sonnir mwy heddiw am y mathau o lenyddiaeth a geir yn yr Hen Destament, megis am y Gyfraith fel cyfarwyddyd, a llyfrau'r proffwydi fel casgliadau oraclau yn cynnwys barddoniaeth a damhegion. Ond ni olyga hyn bod y syniad am egwyddor y Canon wedi newid o ran ei sylfaen. Ni wn am ddim yn y Gymraeg y gallaf gyfeirio'r darllenydd ato ar y pwnc, ond y mae angen llyfr yn ein hiaith ar hanes y Canon a hanes Beirniadaeth Ysgrythurol, ac yn anad dim i gynnwys cipdrem ar hanes beirniadaeth Feiblaidd yng Nghymru. Yn y cyfamser diddorol fyddai darllen gweithiau dau Brifathro, sef G. A. Edwards yn Y Beibl Heddiw, a T. Lewis yn Yr Hen Destament.

Fe deimla'r cyfarwydd ei bod yn rhaid cywiro rhai manion y cyfeiria'r ysgrif atynt. Er enghraifft, fe gysyllta'r awdur yr hanes deublyg am y creu â dylanwad Persia. Bellach gellir profi mai dylanwad Babilonaidd, a hwyrach hanesion o genhedloedd eraill, sydd arnynt. Hefyd, nid yw dadl y Deg Gorchymyn wedi ei thorri yn y modd yr awgryma Emrys, ac nid yw'n derfynol mai cyfraith Josïa ydoedd Deuteronomium; ac felly ymlaen.

Ond y mae'r ysgrif yn rhyfeddol. Y mae'r egwyddor