casglu ynghyd i'r un fan, wedi eu sgrifennu tua'r un amser. Ond nid yw bod lliaws o bethau o'r un natur wedi eu dwyn ynghyd i'r un llyfr ddim yn profi eu bod wedi eu sgrifennu gan yr un awdur, ac ar yr un pryd. Nid oes dim yn fwy profedig na bod y llyfrau yr ydys yn eu priodoli i Foesen wedi eu sgrifennu gan wahanol awduron, a hynny ar wahanol amserau; a hyn sy'n egluro paham y ceir ynddynt ddau draddodiad gwahanol am y Greadigaeth, am y Dilyw, am sefyllfa'r Tabernacl, am ddechreuad y Saboth, ac am liaws of bethau eraill. Nid ar unwaith chwaith y rhoddwyd y gyfraith sydd ynddynt; eithr yn llin ar lin, yn orchymyn ar orchymyn, fel y byddai amgylchiadau yn gofyn.
Pe buasai Cristnogion mwy eu sêl na'u gwybodaeth wedi deall ac addef bod y goruwchnaturiol wedi dyfod hyd atom ar hyd ffyrdd naturiol, fod y gair sydd o Dduw wedi ei roddi trwy ddynion, fod y trysor hwn gennym mewn llestri pridd, a bod y llestri'n rhoi peth o'u lliw a'u llun a'u blas ar y trysor, pe gwybuasent nad yw ysbrydoliaeth y Beibl ddim yn gyfystyr ag anffaeledigrwydd y llythyren; ar air, pe buasent yn fwy o Brotestaniaid nag o Babyddion, ni buasai cymaint o agendor rhwng crefyddwyr anwybodus ac anghredinwyr gwybodus ag sydd yr awr hon. Yn wir, ymlyniad rhagfarnllyd y rhan fwyaf o Gristnogion wrth draddod-