wahanol eu barn am yr Hen Destament, eto y maent mewn llawer o bethau wedi dyfod i gytundeb hollol; a rhyfygus yw'r dyn a daero fod y pethau a gredir yn ddiamau ymhlith dynion annysgedig cyn wired â'r pethau a gredir yn ddiamau ymhlith dynion dysgedig. I ba beth y mae dysg a doniau dda os nad ydynt yn cymhwyso'r rhai a'u medd i arwain y rhai nis meddant. "Digon i'r disgybl fod fel ei athro," medd yr Iesu, ond y mae rhai o ddilynwyr yr Iesu yn mynnu gwelláu'r adnod trwy ddywedyd, "Digon i'r athro fod fel ei ddisgybl." "Y mae gennyf i gystal hawl i farnu â'r gorau o ddynion," medd ambell un. Oes, yn ddiau; y mae ganddo gystal hawl i farnu, ond nid oes ganddo gystal hawl i benderfynu. Yn wir, nid oes ganddo ddim hawl o gwbl i benderfynu bod 2 a 2 yn gwneud 5, fod troedfedd cyhyd â llathen, mai clwt gwastad yw'r ddaear ynghanol y dyfroedd, fod yr haul yn troi o'i hamgylch bob dydd, nad yw sêr y nef namyn mân lusernau i'n goleuo ni liw nos, fod ffurfafen las yn do i'r ddaear ac yn llawr i'r nef, a bod y Beibl Cymraeg wedi disgyn oddi uchod yn un llyfr cyfan, ac wedi'i gyfieithu a'i argraffu a'i rwymo mewn modd gwyrthiol.
Yn awr, ni ddylid derbyn na gwrthod dim sydd hen am ei fod yn hen, ac ni ddylid chwaith dderbyn na gwrthod dim sy newydd am ei fod yn newydd. Derbyn a ddylem yr hyn sydd wir a phrofedig pa un bynnag