Am hynny, yr oedd Hen Destament yr Iddewon oedd yn siarad yr iaith Roeg yn cynnwys cryn lawer mwy o lyfrau na Thestament yr Iddewon oedd yn llefaru iaith Canaan. Nid oedd Iddewon Palestina yn cyfrif dim llyfrau yn ysbrydoledig oddieithr y llyfrau a sgrifennwyd yn yr Hebraeg.[1] Yr oedd Iddewon y tu allan i Balestina yn barnu, o'r tu arall, lefaru o Dduw trwy Iddewon Groegaidd hefyd, hyd yn oed ar ôl i'r hen iaith Hebraeg beidio â bod yn iaith lenyddol; ac felly, yr oeddynt hwy'n cymysgu'r llyfrau a sgrifennwyd yn yr iaith Roeg, sef yr Apocryff, â'r llyfrau a gyfieithwyd o'r Hebraeg. Fe ŵyr y darllenydd ond odid fod yr un gwahaniaeth barn yn bod ymhlith Cristnogion hefyd, canys y mae Hen Destament y Catholigion yn fwy na Hen Destament y Protestaniaid, am fod y Catholigion, a llefaru'n grwn, yn derbyn Hen Destament yr Iddewon oedd ar wasgar, a'r Protestaniaid yn derbyn Hen Destament Iddewon Palestina. Y mae'n wir fod y Protestaniaid hefyd yn cydnabod ei bod yn fuddiol darllen y llyfrau Groegaidd, ac am hynny'n eu dodi ar eu pennau eu hunain rhwng yr Hen Destament a'r Newydd; ond gan fod y llyfrau hyn yn rhy Babyddol eu dysgeidiaeth gan Brotestaniaid Prydain, fe ddarfu i
- ↑ Fe ddywedir ddarfod sgrifennu dau neu dri o lyfrau'r Apocryff ar y cyntaf mewn Hebraeg llygredig, neu ynteu yn yr Aramaeg; ond gan na sgrifennwyd monynt mewn Hebraeg clasurol, braidd y mae'n wiw eu cyfrif yn eithriadau. E. ap I.