Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iosïa hyd amser Esra. Y mae'r drydedd gyfraith, sef y Gyfraith Lefiticaidd, yn gynwysedig yn y rhan olaf o Lyfr Ecsodus, ac yn Lefiticus a Numeri; a hon a fu mewn grym o amser Esra hyd ddinistr y drydedd deml yn y flwyddyn 70 o oed Crist.

Yn ôl y gyfraith gyntaf, yr oedd yn rhydd i bob penteulu yn Israel aberthu, a hynny ymhob rhyw fan. Yn ôl yr ail gyfraith, yn y tabernacl neu'r deml yr oedd rhaid aberthu; a chan y Lefiaid yn unig yr oedd hawl i aberthu yn y fan honno. Yn ôl y drydedd gyfraith gan deulu Aaron yn unig yr oedd hawl i aberthu, ac yr oedd y Lefiad a feiddiai nesáu at yr allor i aberthu yn euog o farwolaeth. Y mae hyn ei hun yn ddigon i ddangos bod y drydedd gyfraith yn gaethach na'r ail, a bod yr ail yn gaethach na'r gyntaf.

Am wyth gan mlynedd ar ôl marw Moesen nid oedd neb yn Israel yn gwybod am un gyfraith amgen na'r gyntaf, a chan nad oedd neb yn gwybod am un arall, teg yw penderfynu nad oedd un gyfraith arall yn bod y pryd hwnnw, canys pe buasai un o'r ddwy arall yn bod, yna fe fuasai dynion gorau'r Hen Destament yn euog o bechodau rhyfygus. Fe fuasai Gideon, Manoa, Samwel, Saul, a Dafydd, yn euog o farwolaeth am aberthu mewn lleoedd anghyfreithlon; ac yn wir am aberthu o gwbl, a hwythau heb fod offeiriaid. Fe fuasai'r bachgen Samwel yn euog o farwolaeth am