Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

efengylaidd hyn: "Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; poeth-offrwm a phech-aberth nis gofynnaist." "Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant; canys ni chwenychi aberth, pe amgen, mi a'i rhoddwn; poeth-offrwm ni fynni. Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig; calon ddrylliog, gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi." "A fwytaf fi gig teirw, neu yfaf fi waed bychod? Abertha foliant i Dduw, a thâl i'r Goruchaf dy addunedau; a galw arnaf Fi yn nydd trallod, a Mi a'th waredaf [heb aberth], a thi a'm gogoneddi." Dilynwyr y proffwydi, meddaf, a draethodd y syniadau hyn; ac yr oedd holl addysg y proffwydi yn seiliedig ar gyhoeddiad Samwel, proffwyd cyntaf brenhiniaeth Israel, yr hwn a ddywedodd: "Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod."

Yn y sylwadau hyn, yr wyf wedi dwyn i mewn syniadau beirniaid estronol a rhy anturus o fath y Ffrancwr Réville, y Batafiad Kuenen, a'r Allman Wellhausen; ond nid wyf wedi eu dilyn hwy ond yn unig cyn belled ag y mae'r beirniad Brytanaidd Robertson Smith yn eu dilyn. Y mae hynny yr un peth â dweud fy mod wedi eu dilyn cyn belled yn unig ag y maent yn cytuno â'r beirniad mwy gochelgar Reuss. Am fod hwn yn Ffrancwr ag ynddo waed Ellmynig, y mae'n cyfuno ynddo'i hun wybodaeth a barn yn fwy