Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gŵr dauddyblig ei feddwl, neu ddauddyblig ei ewyllys ydyw'r un a dderbyniodd yr had ymhlith y drain. Ei fai ef ydyw dwyn dau gnwd, gyda'r canlyniad y bydd i'r cnwd gwaethaf ddifetha'r cnwd gorau. Ei ddalen ni wywa, yn hytrach hi a dyf hyd oni ddelo'r dywysen, ond gwerdd fydd y dywysen pan ddylai hi fod aeddfed. Yn yr ystyr yna y dywedir ei fod yn myned yn ddiffrwyth. Ef a ddwg ffrwyth ond nid i berffeithrwydd. Ef a all fod yn gadwedig, ond ni bydd ei fywyd yn ddefnyddiol nac yn ddaionus ei ddylanwad. Enghraifft o'r dosbarth hwn oedd yr un a ddywedodd: "Mi a'th ganlynaf di, O Arglwydd, ond gad imi'n gyntaf ganu'n iach i'r rhai sydd yn fy nhŷ."

Y mae gwrandawr y tir dreiniog yn derbyn neu yn deall y gair, ac yn ei gadw hefyd. Ei unig fai ydyw nad ydyw ef yn ei dderbyn a'i gadw ef yn unig. Y mae gwrandawr y tir da yn gwneud hynny, ac felly y mae ei feddwl ef yn syml fel ei lygad. Hyn a feddylia Luc wrth ddywedyd bod ganddo galon ardderchog a da. Dyn â'i amcan yn uchel ac yn llwyr ymroddi i'w amcan, ydyw meddwl yr ymadrodd hwn.

YR EFRAU A'R RHWYD
Nid yw'n sicr a lefarwyd yr holl ddamhegion a geir ym Mathew xiii ar yr un pryd, ond fe gytuna pawb i'r Iesu lefaru tair ohonynt, sef dameg yr Heuwr, yr