DARPARU A DERBYN YN GYFLAWN AELODAU
Nid arnaf i y mae'r bai fod y testun hwn mor amleiriog, ond ar Ymneilltuwyr eiddigus yr amser a aeth heibio, y rhai gan faint eu cas at eglwysi Lloegr a Rhufain, oedd yn anfoddlon i arferyd hen dermau eglwysig, pa mor gyfleus bynnag, oni cheid hwynt yn y Testament Newydd. Catechesis y geilw'r cyfundebau hynaf yr addysg neilltuol a roddir i aelodau ar braw, a chonffirmasiwn y galwant y gwaith o dderbyn yn aelodau cyflawn y sawl a fedyddiwyd yn eu babandod. Er nad yw'r geiriau hyn gennym ni, yr Ymneilltuwyr Cymreig, eto y mae'r pethau gennym mewn rhyw fesur. Ac amcan hyn o sylwadau ydyw dangos y dylem ni, a phawb sy'n gweled yn dda fedyddio babanod, roi mwy o bwysigrwydd ar addysgiaeth neilltuol aelodau anghyflawn, a mwy o hynodrwydd ar y dull o'u derbyn yn aelodau cyflawn. Y mae'n well fod gennym y pethau heb yr enwau na'r enwau heb y pethau; ond y mae lle i ofni mai mewn enw yn unig y mae gennym "aelodau ar brawf" yn y rhan fwyaf o'n heglwysi; canys pa brawf a roir arnynt, heblaw gofyn eu bod o leiaf bedair ar ddeg