III
Y MEDDYG A'R BARDD
BUM i a'r Meddyg yn gyfeillion am lawer blwyddyn; ei enw ef arnaf i oedd "y Bardd", a'm enw innau arno yntau oedd "y Meddyg ". Yr oedd yn un o areithwyr Cyfarfod Dirwest Undeb yr Annibynwyr ym Mhorth Madog. Llafuriodd yn galed wrth ei anerchiad, a darllenodd ef i mi mewn ystafell fechan ar nen ei dŷ. Awgrymais gyfnewidiad neu ddau a derbyniodd ef hwynt yn ddiolchgar. Cafodd amser da wrth ei draddodi yn yr Undeb a chan ei fod yn ŵr clyd ei amgylchiadau, argraffodd yr anerchiad ar ei draul ei hun, a gwasgarwyd ef trwy'r Eglwysi. Credaf fod rhai copiau yn awr ar gael yn y Llyfrfa. Argraffodd hefyd Gatecism ar Ddirwest, a bu rhaid i'r 'Bardd' gyfansoddi pennill neu ddau at hwnnw. Gallai'r Catecism hwn fod o fudd mawr heddiw i Obeithluoedd a Chymdeithasau Dirwestol. Gwnaeth amryw feddygon wasanaeth mawr i Ddirwest yn y cyfnod hwnnw.
Hoff iawn oedd y Meddyg' hefyd o rigymu, a byddwn yn aml yn derbyn cerdyn oddiwrtho ar ffurf rhigwm- yn Gymraeg, wrth gwrs. Canys yr oedd yn Gymro selog, er ei fod am ryw resymau neu'i gilydd wedi ymadael â'r capel Cymraeg, ac wedi ymaelodi yn y capel Saesneg. Ond nid oedd y gwasanaeth Saesneg yn hollol gydfyned â'i anianawd, a mynych y troai i mewn ar nos Sul, neu ocdfa nos Lun, i gapel Cymraeg. "Y mae fy adnodau i yn Gymraeg i gyd" meddai. Adnodau ac emynau Cymraeg a ddysgais i ger Mynydd Epynt ".
Hoff iawn ydoedd o gerdded, ac yn enwedig o gerdded gwlad neu fynydd. Un dydd, dywedodd wrthyf, "Wel, y Bardd, nid wyf i wedi bod erioed yn 'Ffrydiau Twrch',